
Categori - Iechyd / Harddwch / Gwallt

Archway Reflexology

0740 0846 303
The Wellbeing Centre, 23b Stryd Caer, Yr Wyddgrug CH7 1EG
Triniaeth sydd mor unigol â chi. Pa un ai ydych eisiau ymlacio, ailfywiogi neu ailsbarduno, bydd Archway’n addasu triniaeth benodol i’ch anghenion. Mae Archway’n cynnig Adweitheg a therapïau holistaidd eraill mewn amgylchedd hamddenol a phroffesiynol gyda’ch cysur a’ch ffyniant chi mewn golwg.
Cynnig Taleb-
AMH

Cariad Nails

07947 797037
(Tanz & Hands) 72 Stryd Fawr, Yr Wyddgrug CH7 1BH
Mae Cariad Nails yn cynnig dewis proffesiynol llawn o driniaethau ewinedd a thriniaethau harddu; microlafnu, cwyro, blew llygaid ffug a phyrmio a lliwio blew llygaid, mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar gan dechnegydd cwbl gymwysedig.


Cynnig Taleb-
10% oddi ar holl driniaethau ewinedd a thriniaethau harddu.

Defining Beauty

01352 755014
1 Lôn yr Eglwys, Yr Wyddgrug, CH7 1BW
Salon Harddwch yn Yr Wyddgrug. Mae Zoe wedi bod yn Therapydd Harddwch ers dros 20 mlynedd, ac mae hi’n gallu cynnig triniaethau fel trin dwylo, trin traed, ewinedd sielac, triniaethau i’r wyneb, estyniadau lled-barhaol i’r blew llygaid, coluro a lliwio’r blew llygaid a’r aeliau.

Cynnig Taleb-
Gostyngiad o 10% ar yr holl driniaethau harddwch (ac eithrio’r cynigion arbennig)

Eyelicious Brow, Lash & Skin Clinic

07775 182871
3 Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug CH7 1AJ
Arbenigwr tra chymwys ar gyfer HD Brows, LVL Lashes, llyfnu croen, pilio cemegol, micronodwyddo, mesotherapy a BB Glow.
Cynnig Taleb-
Llinellu gwefusau neu lygaid Provoc lled-barhaol am ddim wrth archebu Triniaeth Talcen HD (os yw ar gael, cofiwch ofyn ar adeg archebu)

Glow Beauty

01352 750756
43 Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug CH7 1ET
Bydd Glow’n creu amgylchedd moethus a diogel i chi ddianc iddo. Bydd ein gwasanaeth digyfaddawd a’n therapyddion proffesiynol cymwysedig yn personoli eich triniaethau gan sicrhau y gwelwch y gwahaniaeth y gall ychydig o GLOW ei wneud.
Cynnig Taleb-
AMH

Grosvenor Street Physiotherapy Health and Wellbeing Clinic

01352 753400
10 Stryd Grosvenor, Yr Wyddgrug, CH7 1EJ
Yn ein Clinig Ffisiotherapi, Iechyd a Lles yn Stryd Grosvenor rydym ni wedi ymrwymo i gynorthwyo ein cleifion i wella safon eu bywyd trwy leihau eu poen, adfer a gwella’r modd y mae’r corff yn symud a gweithredu.
Mae ein tîm amltherapi, medrus dros ben, yn canolbwyntio’n gyfangwbl ar eich lles a’ch iechyd, trwy wrando arnoch er mwyn gwybod beth yw’r broblem a rhoi digon o amser ichi ei hegluro. Mae ein gwasanaethau’n cynnwys: Ffisiotherapi, therapi tylino, therapïau cyfannol, Pilates, iechyd menywod/pelfig, cynghori, clinig orthotist a chlyw. Pan ydych chi’n teimlo’n well, rydych chi’n byw’n well – dyna yw’n barn ni.
Cynnig Taleb-
10% oddi ar unrhyw dylino
(pan ddefnyddir talebau Yr Wyddgrug yn Llwyr fel rhan o’r taliad)

House of Beauty

01352 754610
3 Adeilad Dewi Sant, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug CH7 1DQ
Therapyddion harddu a chynllunwyr gwallt profiadol yn cynnig triniaethau o’r ansawdd uchaf yn ein salon fodern a chyfeillgar, gyferbyn â swyddfa bost yr Wyddgrug.
Cynnig Taleb-
10% oddi ar driniaethau ewinedd a harddu pris llawn.

InsideOut Wellness

01352 339123
1-2 Sgwâr Griffiths, Yr Wyddgrug, CH7 1DJ
Clinig iechyd a lles cyfannol sy’n rhoi cymorth i’ch meddwl, eich corff a’ch ysbryd, a gwella’ch lles corfforol ac emosiynol. Mae gennym dîm o therapyddion profiadol, helaeth eu cymwysterau, sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau, fel aciwbigo, cwsgdriniaeth, tylino, reiki, adweitheg a seicotherapi.
Cynnig Taleb-
Gostyngiad o 20% ar gyfres o sesiynau Reiki

Omeda Crafts (Masnachwr Marchnad)

073932842233
Marchnad Yr Wyddgrug Dydd Mercher a Sadwrn
Cyflawn o olewau ar gyfer y farf a nwyddau eillio. Mae gennym hefyd ategolion a setiau anrheg. Gallwn hefyd wneud setiau anrheg at y pwrpas, gan ddefnyddio unrhyw un/rai o’r cynhyrchion sydd ar gael ar ein gwefan. Cofiwch anfon e-bost er mwyn cael dyfynbris.
Cynnig Taleb-
AMH

Pure Beauty

01352 219387
18B Stryd Grosvenor, Yr Wyddgrug CH7 1EJ
Yn Pure Beauty bydd ein therapyddion yn rhoi croeso cynnes i chi ynghyd â phob math o driniaethau harddu proffesiynol. Bydd ein therapyddion profiadol dros ben yn eich mwytho gyda thriniaethau bythgofiadwy, o dylino a thrin wynebau, i drin dwylo a chwyro. Cewch hyd i ni fymryn oddi ar y Stryd Fawr gyda pharcio gerllaw.
Cynnig Taleb-
AMH

Select Hair & Beauty

01352 755480
65 Stryd Wrecsam, Yr Wyddgrug CH7 1HQ
Salon neillryw yw Select Hair & Beauty yn cynnig amrywiaeth eang o driniaethau gwallt a harddu gan weithwyr proffesiynol hollol gymwysedig a phrofiadol. Rydym yn ymfalchïo yn ein gofal rhagorol o gleientiaid a’n gwir gariad o’r diwydiant.


Cynnig Taleb-
Triniaeth masg gwallt am ddim (wrth dalu am liw neu dorri a sychwythu)

The Tanning Studio

07956 670021
18 Stryd Grosvenor, Yr Wyddgrug CH7 1EJ
Salon foethus i gael lliw haul, hefyd yn cynnig sgeintio lliw haul a thriniaethau harddu. Gwelyau gorwedd a chawodydd haul o safon gyda chyflymyddion wynebol, aerdymheru llawn a cherddoriaeth. Glanweithdra ac awyru yw’r flaenoriaeth uchaf.

Cynnig Taleb-
Gostyngiad o 10 % ar gyrsiau bloc a photeli hufen lliw haul.